Gwahoddir i chi ymuno â ni, unwaith eto, i ddathlu Gŵyl y Nadolig mewn cyngerdd draddodiadol a gynhelir am 6.30yh ar y 20fed o Ragfyr yn Eglwys Sant Elfan, Aberdâr. Os hoffech archebu tocynnau a wnewch chi lenwi’r bonyn isod a’i ddanfon yn ôl i Mr Higgins yn y brif swyddfa gyda thaliad os gwelwch yn dda. Mae’r gyngerdd yn achlysur poblogaidd yng nghalendr yr ysgol, ac fe anogir i chi archebu tocynnau yn fuan. Pris y tocynnau yw £3 i oedolion a £2 i blant a’r henoed. Os yw eich plentyn yn aelod o’r Gerddorfa, y Côr Hŷn, neu’r Côr Iau, fe fyddant yn cymryd rhan, ac mi fydd manylion pellach yn dilyn maes o law. |
Cyhoeddiadau >