Bydd yr ysgol yn defnyddio’r wefan hon i roi diweddariadau cyson ynglŷn â sefyllfa’r tywydd garw a’r effaith ar drafnidiaeth, yr ysgol ac arholiadau. Mae arholiad TGAU allanol yn digwydd ddydd Gwener, Ionawr 15. Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod yr ysgol ar agor a’r nifer fwyaf posibl o ddigyblion yn sefyll yr arholiad.
Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod disgyblion Blwyddyn 11 yn cyrraedd yr ysgol i sefyll yr arholiad, os oes modd gwneud hynny’n ddiogel. Os yw trafnidiaeth yn cael ei atal ddydd Gwener, Ionawr 15 bydd modd i ddisgyblion Sir Merthyr wneud yr arholiad yn Ysgol Gynradd Santes Tudful gyda’r arholiad yn parhau yn Ysgol Gyfun Rhydywaun i’r rhai sydd yn gallu cyrraedd yr ysgol. Bydd diweddariadau cyson ar wefan yr ysgol a chyfrif trydar. Os yw’n rhaid cau’r ysgol, bydd y neges yn cael ei rhoi yma, ar beiriant ateb yr ysgol, ar Radio Wales a Radio Cymru ac ar gyfrif trydar yr ysgol. |
Cyhoeddiadau >