Bydd yr ysgol yn defnyddio’r wefan hon i roi diweddariadau cyson ynglŷn â sefyllfa’r tywydd garw a’r effaith ar drafnidiaeth, yr ysgol ac arholiadau. Mae arholiad TGAU allanol yn digwydd ddydd Gwener, Ionawr 15. Mae’r ysgol ar agor a bydd yr arholiad Cymraeg yn digwydd yma.
Ar hyn o bryd, nid yw bysiau Merthyr wedi eu rhyddhau ond bwriedir iddynt redeg yn yr hanner awr nesaf. Rydym ar ddeal fod bysiau Globe ar y ffordd i gasglu disgyblion ond dydd First Call ddim wedi eu rhyddhau eto. Mwy o wybodaeth wrth i ni ei derbyn. Gall disgyblion Blwyddyn 11 sy'n sefyll arholiad y bore ma naill ai aros am y bws i Rydywaun neu os yw'n haws gallan nhw fynd i Ysgol Santes Tudful i sefyll yr arholiad. |
Cyhoeddiadau >