Cyhoeddiadau‎ > ‎

Newidiadau i Daliadau Arian Cinio Ar-lein

posted 15 Nov 2016, 03:27 by Cenwyn Brain

Mae'r tudalennau talu a ddefnyddir i dalu arian cinio ar-lein wedi newid. Bydd y system newydd yn cynnig i chi fel rhieni'r gwelliannau canlynol:

  • Bydd yn edrych a theimlo'n fwy cyfeillgar i'r defnyddiwr
  • Bydd 'Basged siopa' yn rhoi'r dewis i ychwanegu eitemau lluosog gydag un taliad ar 'Checkout'
  • Mae'r gallu gennych i gofrestru cyfrif neu gallwch arbed y cyfeiriadau disgybl i'w defnyddio i dalu yn rheolaidd
  • Mae rhieni sy'n cofrestru hefyd yn gallu dewis i arbed eu manylion cerdyn
  • Bydd tudalennau Taliad yn addasu eu maint i arddangos ar ffôn symudol neu dabled

Ni fydd unrhyw beth yn newid o ran sut yr ydych yn cael gwybod am daliadau, byddwch yn parhau i dderbyn eich adroddiadau arian cinio fel arfer. Hefyd, gall rhieni barhau i ddefnyddio eu rhifau cyfeirnod presennol. Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol:

https://www.civicaepay.co.uk/RhonddaEstore/estore/welsh/Account/Login

Comments