Rhwng 24-28 Mawrth fel rhan o'n ffocws ar Ddysgu ac Addysgu fe fydd hi'n Wythnos Dysgu Hyblyg yn yr ysgol. Bydd yr athrawon yn hyrwyddo nodweddion dysgu 'Hyblyg' yn y gwersi gan obeithio bod hyn yn arwain at feithrin disgyblion sy'n gallu canolbwyntio a gwneud defnydd effeithiol o amser, cydweithio, gwrando'n effeithiol a dangos empathi. Dyma sgiliau pwysig! |