her@rhydywaun
Cynhadledd RhCT Ysgol Gyfun Aberpennar
![]() Cafodd yr ysgol wahoddiad i wneud cyflwyniad am 7 Ar Waith a'r defnydd o iPads gyda disgyblion Blwyddyn 7 mewn Cynhadledd yn Ysgol Gyfun Aberpennar. Fe siaradodd Mr Trystan Edwards y Dirprwy Brifathro a Mrs Elen George, Pennaeth Cynorthwyol, am y cynllun 7 Ar Waith a'n defnydd o iPads, cyn i ni roi cyfle i 6 'E-ddewin' dewr ddangos i'r athrawon sut i ddefnyddio gwahanol 'apps' ar yr iPad. Diolch yn fawr i'r 6 - Carwyn T Davies, Dafydd Davies, Emily Edwards, Thomas Madge, Hannah Roberts a Louis Williams - roedden nhw'n wych! |
Beth yw her@rhydywaun?
• Cynllun newydd iPad i bob disgybl • Defnydd dyddiol ym mhob gwers • Ffocysu ar Lythrennedd a Rhifedd • Ffocysu ar feithrin Dysgwyr Annibynnol • Meithrin hunanhyder y Dysgwyr • Apple-TV mewn 20 Ystafell Addysgu • 45 I-Pad ar gyfer Carfan ‘HER’ |
1-4 of 4