her@rhydywaun‎ > ‎

Cynhadledd RhCT Ysgol Gyfun Aberpennar

posted 19 Nov 2013, 06:25 by Elen George   [ updated 19 Nov 2013, 07:12 ]

Cafodd yr ysgol wahoddiad i wneud cyflwyniad am 7 Ar Waith a'r defnydd o iPads gyda disgyblion Blwyddyn 7 mewn Cynhadledd yn Ysgol Gyfun Aberpennar. Fe siaradodd Mr Trystan Edwards y Dirprwy Brifathro a Mrs Elen George, Pennaeth Cynorthwyol, am y cynllun 7 Ar Waith a'n defnydd o iPads, cyn i ni roi cyfle i 6 'E-ddewin' dewr ddangos i'r athrawon sut i ddefnyddio gwahanol 'apps' ar yr iPad. Diolch yn fawr i'r 6 - Carwyn T Davies, Dafydd Davies, Emily Edwards, Thomas Madge, Hannah Roberts a Louis Williams - roedden nhw'n wych!
Comments