Colofn y Pennaeth
Croeso gan y Brifathrawes
Yn Rhydywaun rydym yn ymrwymo i sicrhau lles, uchelgais a’r cyfleoedd gorau i bawb. Gwir. Gweithgar. Gwych
Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i chi i gyd am eich cymorth, cefnogaeth a’ch amynedd drwy’r cyfnod heriol hwn.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld ein disgybion i gyd dros y dyddiau nesaf. Fel y Brifathrawes ac fel staff yr ysgol, mae'r syniad o groesawu'n holl blant nôl i amserlen lawn a bywyd ysgol arferol yn un hyfryd, rydym wir yn obeithiol y bydd hyn yn realiti dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. O ran y cyfnod anwytho i’r ysgol ar ddechrau Medi, rydym yn glynu wrth y cynllun â rhannwyd ym mis Gorffennaf.
Bydd y trefniadau newydd yn golygu rhywfaint o addasu: mae'r ysgol yn debygol o deimlo’n lle eithaf gwahanol i'r un a adawsom ym mis Mawrth a dros yr haf. Byddwn yn cymryd ein hamser, a byddwn yn canolbwyntio ar addysgu, normau ac arferion ac ar sicrhau bod ein disgyblion yn hapus ac yn astudio’n galed cyn gynted â phosibl. Hoffem eich sicrhau ein bod wedi gwneud llawer iawn o waith i sicrhau bod yr ysgol mor ddiogel â phosibl. Rwyf yn hynod ddiolchgar i holl staff yr ysgol am eu gwaith caled a dyfalbarhad. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at gael ein hysgol yn gweithredu'n llawn eto a gweld ein pobl ifanc, er hyn mae’n holl bwysig eich bod yn deall y cynlluniau a sut byddwn yn ymateb yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a’r Awdurdod Lleol, wrth ymdopi â’r sefyllfa bresennol.
07.09.20 |
Cerbydau ar safle'r ysgol ar ddiwedd y diwrnod ysgol
Annwyl Rhieni Mae safle’r ysgol yn brysur iawn ar ddiwedd y dydd. Mae nifer o fysiau’n cyrraedd a gadael ac mae nifer o ddisgyblion yn croesi’r heolydd a theithio i fyny at fysiau/ceir ayb. Mae nifer o rieni’n cyrraedd safle’r ysgol tra bod disgyblion yn symud at y bysiau ac maent wedyn yn ceisio gadael y safle cyn i’r bysiau ddechrau ymadael. Mae hyn yn achosi anrhefn a phryder o ran diogelwch. Mae hefyd yn golygu bod tagfeydd yn digwydd wrth i’r bysiau ddod i mewn i’r safle ac wrth ymadael. Ysgrifennaf atoch unwaith eto er mwyn eich hysbysu o’r drefn. Nid ydym am i unrhyw gerbyd symud ar y safle nes bod disgyblion yn ddiogel ar fysiau’r ysgol. Gofynnaf felly i rieni sy’n casglu eu plant i beidio dod ar safle‘r ysgol rhwng 2:50 a 3:10pm. Mae croeso gennych gyrraedd a gadael tu hwnt i’r ffenest amser hwn. Nid ydym eisiau gorfod rhwystro rhieni rhag dod ar y safle na chwaith rhwystro rhag ymadael yn ystod yr amser uchod ond rhaid blaenoriaethu diogelwch ein disgyblion. Gofynnaf felly i chi ddilyn y rheol hon. Diolch am eich cydweithrediad ar y mater hwn. |
Adroddiad Blynyddol y Llywodraethwyr
Gweler isod grynodeb o'r adroddiad blynyddol y Llywodraethwyr i rieni. Os ydych eisiau copi o'r adroddiad llawn, cysylltwch â'r ysgol. Diolch |
Ysgol ar agor 5/3/18
Diolch yn fawr i'r bobl wnaeth helpu gyda chlirio'r eira o'r llwybrau ac wrth fynediad yr ysgol. Roedd yn glawio'r wael ac roedd pawb yn wlyb iawn! Diolch am barhau gyda'r gwaith fel ein bod yn gallu agor yfory. |
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr...
Gyda'r eira mawr diweddar, rydym yn awyddus i glirio'r llwybrau a mynedfa'r ysgol er mwyn ceisio agor dydd Llun (5/3/18). Byddwn yn gwerthfawrogi eich cymorth! |
Gweithgor Rhieni
Cynhelir cyfarfod gweithgor rhieni nos Fercher nesaf 13/12/17 yn yr ysgol rhwng 4 a 5 o'r gloch. Byddwn yn trafod gwisg ysgol, systemau a strwythurau'r ysgol. Os oes diddordeb gennych mewn mynychu, cysylltwch â'r ysgol fel bod modd i ni gael syniad o'r niferoedd a gwneud trefniadau perthnasol. Diolch. |
Gwm Cnoi
Yn dilyn gwariant sylweddol ar garpedi newydd mewn 2 goridor ac mewn 3 ystafell ddosbarth, yn ogystal â chelfi newydd mewn sawl ystafell ddosbarth, gofynnir i ddisgyblion beidio dod â gwm cnoi i'r ysgol. Diolch am eich cydweithrediad. |
Arolwg Estyn
Mae Estyn yn arolygu’r ysgol ar 21/11/16. Mae holiadur yn gofyn am farn rhieni ar gael i’w lenwi yn https://vir.estyn.gov.uk - erbyn 31/10/2016. Cewch cod yr holiadur mewn llythyr gan eich plentyn. Hefyd, mae gwahoddiad i chi ddod i gyfarfod â’r arolygwyr yn yr ysgol am 5pm ar 21/11/16.Mae rhagor o wybodaeth am yr arolygiad i’w chael mewn taflen gan Estyn; byddwch yn cael y daflen hon cyn bo hir, os nad ydych eisoes wedi’i chael. |
Neges gan y Pennaeth newydd
Annwyl Rieni, Disgyblion a Llywodraethwyr Mae’n bleser cychwyn fy swydd heddiw fel Pennaeth Ysgol Gyfun Rhydywaun. Mae gan yr ysgol enw da a safonau uchel. Fy mhrif flaenoriaethau yw sicrhau bod y rhain yn parhau wrth i’r ysgol ddatblygu i wynebu heriau’r dyfodol. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i gyd. Mark Jones |
Blwyddyn Newydd Dda!
Blwyddyn Newydd Dda! Annwyl rieni, gwarcheidwaid a disgyblion, Braint yw cael ymgymryd â’r swydd hon am dymor cyn i Mr. Mark Jones ymuno â ni fel Prifathro’r ysgol ym mis Ebrill. Fy mlaenoriaeth yw sicrhau’r gorau i’n disgyblion, staff a’r ysgol a’n bod yn parhau i wella ymhob agwedd. Byddwn yn parhau i sicrhau’r safonau uchaf o ofal a chynhaliaeth i’n disgyblion ac yn eu harwain ac annog i fod yn uchelgeisiol, i wneud cynnydd ac i fanteisio ar bob cyfle i wireddu eu potensial. Gyda’n staff ymroddgar a brwdfrydig a disgyblion unigryw, fe awn o nerth i nerth a sicrhau llwyddiant parhaol i holl randdeiliaid yr ysgol. Lisa Williams Pennaeth Dros-dro |