Blwyddyn Newydd Dda a chroeso yn ôl i dymor prysur arall yn hanes Ysgol Gyfun Rhydywaun. Er bod y tymor yn un byr - 10 wythnos yn unig, bydd sawl digwyddiad yn sicrhau bod bwrlwm arferol yr ysgol yn parhau: • Noson rhieni blwyddyn 12 Pecyn Astudio Lefel 2 nos Iau Ionawr 17eg 2013 yn cychwyn am 3.30. • Noson rhieni blwyddyn 7 nos Iau Ionawr 24ain 2013 yn cychwyn am 3.30. • Diwrnod Santes Dwynwen Ionawr 25ain 2013. Cyfle i ddisgyblion brynu rhosynnau! • Noson opsiynau i flwyddyn 11 bresennol sydd am ddychwelyd i astudio ym mlwyddyn 12/13 yn Medi 2013. Cynhelir hyn nos Iau Ionawr 31ain 2013. • Noson rhieni blwyddyn 9 Chwefror 7fed 2013 am 3.30. • Hanner tymor 11 – 15 Chwefror 2013 Sioe Gerdd yr ysgol - Sweeney Todd Bydd disgyblion yr ysgol yn perfformio’r Sioe Gerdd Sweeney Todd rhwng Chwefror 26-28ain 2013 yn Theatr y Coliseum, Aberdâr. Mae’r tocynnau ar werth nawr trwy gysylltu â’r theatr. Dyma’r tro cyntaf i’r sioe gerdd hon gael ei pherfformio trwy gyfrwng y Gymraeg a rhagwelwn alw mawr am y tocynnau. Dewch i gefnogi’r disgyblion a holl waith hyfforddi yr athrawon. |
Cartref > Colofn y Pennaeth >