Cartref‎ > ‎Colofn y Prifathro‎ > ‎

Blwyddyn Newydd Dda!

posted 4 Jan 2016, 01:16 by Elen George   [ updated 6 Mar 2016, 12:12 ]
Blwyddyn Newydd Dda!

Annwyl rieni, gwarcheidwaid a disgyblion,

Braint yw cael ymgymryd â’r swydd hon am dymor cyn i Mr. Mark Jones ymuno â ni fel Prifathro’r ysgol ym mis Ebrill.

Fy mlaenoriaeth yw sicrhau’r gorau i’n disgyblion, staff a’r ysgol a’n bod yn parhau i wella ymhob agwedd.  Byddwn yn parhau i sicrhau’r safonau uchaf o ofal a chynhaliaeth i’n disgyblion ac yn eu harwain ac annog i fod yn uchelgeisiol, i wneud cynnydd ac i fanteisio ar bob cyfle i wireddu eu potensial. 
Gyda’n staff ymroddgar a brwdfrydig a disgyblion unigryw, fe awn o nerth i nerth a sicrhau llwyddiant parhaol i holl randdeiliaid yr ysgol.


Lisa Williams
Pennaeth Dros-dro

Comments