Pleser o’r mwyaf yw cyhoeddi bod canlyniadau Safon Uwch Ysgol Gyfun Rhydywaun wedi cyrraedd y canran uchaf yn ei hanes. Llwyddodd 86% o ddisgyblion blwyddyn 13 i sicrhau graddau A*-C gyda 94% o’r flwyddyn yn sicrhau Trothwy Lefel 3. Dyma ganlyniadau gorau yn hanes yr ysgol o bell ffordd ac yn welliant pellach ar yr 82% a sicrhawyd y llynedd. Llwyddodd pob disgybl i sicrhau lle mewn prifysgol neu hyfforddiant a hoffwn dynnu sylw penodol i Lewis Hancox am sicrhau 3 gradd A*, Morgan Powell a sicrhaodd le ym Mhrifysgol Caergrawnt a Shannon Powell sydd wedi sicrhau lle ym Mhrifysgol Dubai. Hoffwn longyfarch y disgyblion, staff gyfan a’r rhieni ar lwyddiant y disgyblion a dymunaf pob dymuniad da wrth iddynt fynd i brifysgolion, hyfforddiant a chyflogaeth. |
Cartref > Colofn y Pennaeth >