Rydym wrth ein boddau gyda chanlyniadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol eleni. O'r 61 disgybl yn y cohort, cafodd 81% A*-C a 93.6% oedd y Trothwy Lefel 3 (2 bwnc Safon Uwch neu bynciau cyfatebol). Eleni cawsom ganlyniadau cyntaf yr ysgol ar gyfer Bagloriaeth Cymru, ac yn falch iawn o'r disgyblion hynny sydd wedi llwyddo - 92.6% yn ennill cymhwyster lefel uwch.
Hoffwn longyfarch y disgyblion, athrawon a rhieni ar eu llwyddiant, yn enwedig Zoe Evans (A*, 3A, C), Jack Griffiths (2A, 2B), Kate Mathias (A*, A, B, C), Kameron Harrhy (2A, 2B), Alun Bullock (2A, 2B).
Hywel Price |