Hoffwn longyfarch holl ddisgyblion blwyddyn 11 a staff yr ysgol ar sicrhau canlyniadau gorau yn hanes yr ysgol. Gwelwyd cynnydd syfrdanol eleni yn nhrothwy Lefel 2 yr ysgol (5 cymhwyster Lefel 2 neu fwy) o 62% yn 2012 i 86% yn 2013 – cynnydd o 24% canran. Fel canlyniad gwelwyd cynnydd rhagorol yn y Lefel 2+ (5 cymhwyster Lefel 2 yn cynnwys Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg) o 42% i 55% - unwaith eto yr uchaf yn hanes yr ysgol. Mae hyn oll yn ganlyniad i ymroddiad a brwdfrydedd disgyblion a staff arbennig yr ysgol, yr addasiadau a wnaed i gwricwlwm yr ysgol ers 2011 a’r gwelliant yn nefnydd staff o ddata, tracio a monitro disgyblion. Mae heddiw yn ddiwrnod o falchder mawr i bawb sy’n gysylltiedig â’r ysgol Hoffwn dynnu sylw penodol i’r disgyblion isod am ganlyniadau arbennig a thalu teyrnged i bob disgybl am eu hymdrechion a’u parodrwydd i gyrraedd y safonau uchel a nodwyd uchod. Edrychwn ymlaen i’w croesawu yn ôl i Flwyddyn 12 ym mis Medi i gychwyn ar eu cyrsiau UG, BTEC ac NVQ.
Hywel Price Prifathro
Awst 22ain 2013. |
Cartref > Colofn y Pennaeth >