Annwyl rieni/warcheidwad a disgyblion Ysgol Gyfun Rhydywaun, Wrth i ddiwedd y tymor agoshau, hoffwn dynnu eich sylw at ddigwyddiadau ysgol gyfan yn yr wythnosau nesaf: 1. Bydd dathliad blynyddol yr ysgol o’r Nadolig yn digwydd yn Eglwys San Elfan, Aberdâr ar nos Fercher, Rhagfyr 16eg 2015, i gychwyn am 6.30. Am docynnau cysylltwch gyda Mrs Spearey (01685 813500) 2. Diwrnod olaf y tymor, dydd Gwener, Rhagfyr 18fed 2015. Bydd hyn yn ddiwrnod arferol gyda’r disgyblion yn gadael y safle am 3 o’r gloch. 3. Tymor y Gwanwyn 2016. Bydd yr ysgol yn agor ar gyfer holl ddisgyblion a staff yr ysgol ar ddydd Llun, Ionawr 4ydd 2016. Fel y gwyddoch, byddaf yn gadael fy swydd fel Pennaeth yr ysgol ar ddiwedd y tymor. O Ionawr 1af 2016 bydd Miss Lisa Williams yn Bennaeth dros-dro ar yr ysgol a Miss Sioned Jones yn Ddirprwy Bennaeth dros dro ar yr ysgol. Pleser yw cyhoeddi penodiad Mr Mark Jones, Pennaeth Ysgol Gyfun Llangynwyd, fel Pennaeth Ysgol Gyfun Rhydywaun o Ebrill 11eg 2016. Mae’r ysgol wedi gwella yn sylweddol yn y tair blynedd diwethaf ac rwyf yn hyderus iawn y bydd y patrwm o welliant yn parhau am sawl blwyddyn arall. Hoffwn ddiolch i chi gyd – yn ddisgyblion, rhieni , athrawon a llywodraethwyr am eich cwmni, cyngor a chefnogaeth dros y blynyddoedd. Mae wedi bod yn anrhydedd i fod yn gysylltiedig gyda’r ysgol unigryw hon. Dymuniadau da i bob un ohonoch. Hywel Price Pennaeth 10/12/2015 |
Cartref > Colofn y Pennaeth >