Yn Rhydywaun rydym yn ymrwymo i sicrhau lles, uchelgais a’r cyfleoedd gorau i bawb. Gwir. Gweithgar. Gwych
Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i chi i gyd am eich cymorth, cefnogaeth a’ch amynedd drwy’r cyfnod heriol hwn.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld ein disgybion i gyd dros y dyddiau nesaf. Fel y Brifathrawes ac fel staff yr ysgol, mae'r syniad o groesawu'n holl blant nôl i amserlen lawn a bywyd ysgol arferol yn un hyfryd, rydym wir yn obeithiol y bydd hyn yn realiti dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. O ran y cyfnod anwytho i’r ysgol ar ddechrau Medi, rydym yn glynu wrth y cynllun â rhannwyd ym mis Gorffennaf.
Bydd y trefniadau newydd yn golygu rhywfaint o addasu: mae'r ysgol yn debygol o deimlo’n lle eithaf gwahanol i'r un a adawsom ym mis Mawrth a dros yr haf. Byddwn yn cymryd ein hamser, a byddwn yn canolbwyntio ar addysgu, normau ac arferion ac ar sicrhau bod ein disgyblion yn hapus ac yn astudio’n galed cyn gynted â phosibl. Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf i chi fel rhieni a disgyblion. Hoffem eich sicrhau ein bod wedi gwneud llawer iawn o waith i sicrhau bod yr ysgol mor ddiogel â phosibl. Rwyf yn hynod ddiolchgar i holl staff yr ysgol am eu gwaith caled a dyfalbarhad. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at gael ein hysgol yn gweithredu'n llawn eto a gweld ein pobl ifanc, er hyn mae’n holl bwysig eich bod yn deall y cynlluniau a sut byddwn yn ymateb yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a’r Awdurdod Lleol, wrth ymdopi â’r sefyllfa bresennol.
07.09.20 |
Cartref > Colofn y Pennaeth >