Bydd Ysgol Gyfun Rhydywaun ar gau i ddisgyblion ddydd Gwener Tachwedd 16eg 2012 oherwydd diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd i holl ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg de ddwyrain a de orllewin Cymru. Bydd yr ysgol yn agor fel arfer ddydd Llun Tachwedd 19fed 2012. Dyma ddyddiadau eraill a fydd o ddefnydd i chi rhwng nawr a diwedd y tymor: Noson Rhieni Blwyddyn 13 nos Iau Tachwedd 22ain 2012 Noson Rhieni Blwyddyn 11 nos Iau Tachwedd 29ain 2012 Ffair Gaeaf ar nos Fercher Rhagfyr 5ed 2012 Noson Rhieni Blwyddyn 8 nos Iau Rhagfyr 13eg 2012 Gwasanaeth Nadolig yn Eglwys Sant Elfan nos Fercher Rhagfyr 19eg 2012 Diwrnod olaf y tymor i ddisgyblion - dydd Iau Rhagfyr 20fed 2012 Bydd yr ysgol yn ail agor i ddisgyblion ar ddydd Llun Ionawr 7fed 2013 |
Cartref > Colofn y Prifathro >