![]() Fel Pennaeth Ysgol Gyfun Rhydywaun, cafodd y ffaith yma ei gwneud yn hysbys i fi drwy ddarllen dogfen Cynllun Strategol Addysg Gymraeg 2014-2017 y Sir. Serch hynny, mae’r penderfyniad hwn yn gwbl wrthgyferbyniol i’r ddogfen y cynhwyswyd y wybodaeth ynddi, sef strategaeth Llywodraeth Cymru i ddiogelu ac ehangu Addysg Gymraeg yng Nghymru. Goblygiadau’r ymgais hon i arbed arian yw na fydd disgyblion Ôl-16 Merthyr yn gallu cyrraedd Ysgol Gyfun Rhydywaun. Bydd gan hyn effaith angheuol ar yr ysgol ond yn bwysicach ar ddyfodol darpariaeth Addysg Gymraeg yn y Sir. Mae’r cyfnod ymgynghori yn dirwyn i ben ar Chwefror 3, ond chafodd y cysylltiad gwefan er mwyn mynegi pryder yn yr ymgynghoriad mo’i ryddhau tan Ionawr 20fed. Hoffwn eich annog fel rhieni, disgyblion a chefnogwyr Addysg Gymraeg i ymateb drwy ddilyn y linc isod. http://www.merthyr.gov.uk/English/CouncilAndDemocracy/Consultations/Pages/ServiceChangeProposal.aspx Hywel Price Prifathro 21 Ionawr 2014 |
Cartref > Colofn y Pennaeth >