posted 19 May 2014, 07:57 by Unknown user
[
updated 20 May 2014, 04:32
]
Pleser o’r mwyaf yw cyhoeddi bod rhieni, disgyblion, llywodraethwyr ac athrawon Ysgol Gyfun Rhydywaun wedi sicrhau buddugoliaeth yn y frwydr i ddiogelu trafnidiaeth i ddisgyblion ôl-16 o Fedi 2014 ymlaen. Bu bygythiad i hyn o gyfeiriad Cyngor Bwrdeistref Merthyr nol yn Ionawr 2014 pan gyhoeddwyd yr argymhelliad i ddod a’r ddarpariaeth i ben o Fedi 2014 gan beryglu dyfodol addysg ôl 16 yn ei chyfanrwydd. Yn dilyn ymateb chwyrn gan rieni, disgyblion, athrawon, llywodraethwyr a gwleidyddion fe gyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Merthyr y byddai trafnidiaeth i ddisgyblion ôl 16 sy’n byw 3 milltir i ffwrdd o’r ysgol yn parhau ac y byddai’r argymhelliad gwreiddiol yn cael ei ddileu.
Hoffwn ddiolch yn gyhoeddus i bawb am eu cyfraniad i’r fuddugoliaeth hon gan ddiogelu dyfodol yr ysgol a pharhad addysg Gymraeg yn sir Merthyr.
Hywel Price Prifathro Mai 18fed, 2014
|
|