Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr wedi cyhoeddi ar eu gwefan bod yr argymhelliad i ddileu trafnidiaeth ôl 16 i ddisgyblion o Ferthyr wedi ei ohirio ac yn destun i adolygiad polisi llawn ac ymgynghori pellach. Er bod hyn yn fuddugoliaeth byr dymor i’r ysgol nid yw eto’n glir pryd fydd canfyddiadau yr adolygiad o bolisi ac ymgynghoriad pellach nesaf yn cael ei gyhoeddi. Serch hynny, mae’r penderfyniad i ohirio am y tro yn adlewyrchiad clir o deimladau rhieni, disgyblion, staff, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach am oblygiadau’r argymhelliad a bod hyn yn amlwg wedi taro tant gydag aelodau’r cyngor. Diolch yn fawr i bawb am eu cefnogaeth barod trwy gydol yr ymgyrchu.
Hywel Price 3/3/14 |