Croeso nôl i bawb i flwyddyn ysgol arall llawn bwrlwm yn Ysgol Gyfun Rhydywaun. Ar ol haf llwyddiannus iawn lle sicrhawyd y canlyniadau gorau erioed yn hanes yr ysgol yn CA3 a 4 (Trothwy Lefel 2: 86% a Trothwy Lefel 2 gan gynnwys Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg yn 56%) mae’n braf gallu croesawu pawb yn ôl, yn enwedig blynyddoedd 7, 12 a’r athrawon newydd sydd wedi ymuno â ni ym mis Medi 2013. Fel y gwelwch o’r lluniau ar wefan yr ysgol mae profiadau sylweddol yn codi yn yr ysgol i ddisgyblion o bob oedran. Bu blwyddyn 7 yn Llangrannog eleni gyda grŵp o fyfyrwyr Blwyddyn 12 a chynhaliwyd noson wobrwyo yr Adran Addysg Gorfforol ym mis Medi gydag Andrew Coombs (cyn ddisgybl a chapten y Dreigiau) ac Aled Davies (medal aur gemau paralympaidd Llundain 2012) yn bresennol i gyflwyno gwobrau amrywiol. Fe aeth y prif wobr i Honor Broadstock wrth iddi barhau i ennill medalau aur wrth daflu’r ddisgen i dîm anabledd Cymru.
Yn ychwanegol i hyn cynhaliwyd yn ddiweddar gystadleuaeth trawsgwlad blynyddoedd 7-11 gyda Llys Dâr yn fuddugol, dathlwyd diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd ac fe gynhaliwyd diwrnod y beirdd gyda tua 50 o fyfyrwyr Lefel AS ac A ysgolion Cymer, Cwm Rhymni, Llangynwyd a Gwynllyw yn ymuno gyda ni i wrando ar Myrddin ap Dafydd a Ceri Wyn Jones. Mae’r côr iau wedi derbyn gwahoddiad o BBC Cymru i berfformio yn fyw ar raglen Plant Mewn Angen eleni, tipyn o glod ar ôl perfformio’n ddiweddar ar ‘Dechrau Canu, Dechrau Canmol’. Bydd yr ysgol hefyd yn cychwyn ar y broses o baratoi ar gyfer sioe ‘Oliver’ yn y dyddiau nesaf gyda’r perfformiadau i ddigwydd yn 2014.
Hywel Price Prifathro Hydref 2013 |