Neges o’r Prifathro: Blwyddyn Newydd Dda a chroeso nôl i dymor arall o fwrlwm yn Ysgol Gyfun Rhydywaun. Mae disgyblion blynyddoedd 11, 12 a 13 wedi dychwelyd i sefyll arholiadau allanol yn Ionawr. Wrth gyfeirio at arholiadau allanol, fe dderbyniodd disgyblion blwyddyn 11 eu canlyniadau Mathemateg yn dilyn arholiadau Tachwedd 2013 ac mae’n bleser nodi bod y canlyniadau da hynny yn argoeli’n wych ar gyfer sicrhau canlyniadau gorau Mathemateg yn hanes yr ysgol. Maent yn ail sefyll yn Ionawr yma gyda’r canlyniadau i’w cyhoeddi ym mis Mawrth. Mae sawl llwyddiant diweddar wedi codi yn y meysydd academaidd a diwylliannol o safbwynt y disgyblion. • Braf yw cyhoeddi bod prif swyddog yr ysgol, Morgan Powell, wedi cael cynnig i astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt ym Medi 2014. • Elin Kelly wedi derbyn ysgoloriaeth i Goleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru • Jac Thomas wedi ei ddewis i Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru O ran chwaraeon: • Darrah Jones (Bl 8) wedi cynrychioli tîm Polo Dwr Cymru a charfan cychwynnol Prydain • Angharad Kibble – wedi ei dewis i dîm rygbi o dan 18 Dreigiau Casnewydd • Gwen Northall newydd ddychwelyd o’r Iseldiroedd ar ôl cynrychioli Cymru mewn Judo o dan 21 oed. • Sophie Evans – pencampwraig Cymru o dan 16 yn nofio 800 metr dull rhydd mewn llai na 9 munud • Efan Davies wedi teithio î Awstralia yn chwarae criced i Gymru o dan 13 oed Yn ychwanegol, bydd 20 o ddisgyblion yn derbyn eu tystysgrifau efydd ac arian Gwobr Dug Caeredin yn Mawrth 2014. Cynhelir diwrnod Rhifedd i ddisgyblion blwyddyn 9 trwy arweiniad Techniquest ddydd Gwener Ionawr 24ain 2014 a noson opsiynau i ddisgyblion blwyddyn 11 sydd am ddychwelyd i Rydywaun ym Medi 2014 yn digwydd nos Iau Ionawr 30ain 2014. Bandio: Byddai nifer ohonoch wedi darllen am gyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru i fandio ysgolion yn Rhagfyr 2013. Mae Rhydywaun wedi codi i Fand 3 ac mae strategaethau ysgol gyfan yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i barhau i wella yn raddol a pharhaus. Hywel Price Prifathro Ionawr 2014 |
Cartref > Colofn y Pennaeth >