Annwyl ddisgyblion a rhieni, Hoffwn ddiolch i bawb, ac yn enwedig i’r rhieni niferus a wnaeth drefniadau personol, am y lefel uchel o bresenoldeb yn ystod y tywydd garw diweddar. Bu’n rhaid cau’r ysgol ar Ionawr 22 a 23 gan fod yr eira trwchus yn creu problemau trafndiaeth. Byddai wedi bod yn gwbl amhosibl i athrawon, disgyblion a’r bysus i gyrraedd yr ysgol oherwydd diffyg trafnidiaeth, cyflwr peryglus iawn yr heolydd a materion gofal a iechyd cyffredinol. Gyda chefnogaeth rhieni a RCT yn darparu ceir 4x4 i ddisgyblion penodol llwyddodd disgyblion y Chweched sefyll arholiadau Hanes a Mathemateg ar y safle. Llwyddwyd i barhau â Noson Rhieni Blwyddyn 7 nos Iau 24 Ionawr hefyd, a diolch i'r rhieni am eu presenoldeb. I dderbyn newyddion diweddar am yr ysgol gwiriwch wefan yr ysgol yn rheolaidd. Diolch unwaith eto am eich cefnogaeth Mr Price |
Cartref > Colofn y Pennaeth >