Pob dymuniad da i'r staff sy'n ein gadael eleni. Annwyl rieni, gwarcheidwaid a disgyblion, Wrth i ddiwedd y tymor agosau hoffwn ddiolch i bob un ohonoch unwaith eto am eich cefnogaeth trwy gydol y flwyddyn academaidd. Eleni gwelwyd y presenoldeb ysgol uchaf (94.7%), canlyniadau gorau Cyfnod Allweddol 3 a pan ychwanegwch hyn i ganlyniadau arbennig Haf 2014 a’r rhagolygon cryf am welliant pellach yn Haf 2015, mae hyn, heb os yn gyfnod cyffrous yn hanes yr ysgol. Bydd yr ysgol yn ail agor i staff ddydd Mawrth Medi 1af 2015, ac i holl ddisgyblion yr ysgol ar ddydd Mercher Medi 2ail 2015. Mae newidiadau staffio sylweddol ar gyfer Medi 2015 a bydd y staff canlynol yn ein gadael: • Mr Daniel Williams (Cynorthwy-ydd Dysgu, astudio Peirianneg Gemegol ym Mhrifysgol Abertawe) • Mrs April Young (Ymddiswyddiad fel Swyddog Presenoldeb) • Mr Gareth Lewis (Swydd Gwyddoniaeth yn Ysgol Gyfun Gwyr) • Miss Carys Comley (Swydd Saesneg yn Ysgol Gyfun Bryn Tawe) • Mrs Claire West • Mr Gareth Payne (ymddeoliad) • Mr Trystan Edwards (Pennaeth Ysgol Gyfun Gartholwg) Bydd 3 aelod o staff newydd yn ymuno â’r ysgol ym mis Medi 2015. Yn ychwanegol i hyn, bydd Mr Cenwyn Brain yn dechrau fel Pennaeth Cynorthwyol a Miss Lisa Williams yn gweithredu fel Dirprwy Bennaeth o Fedi 1af 2015. Hoffwn ddiolch i bob un o’r staff uchod am eu cyfraniad byr a hir dymor i ddatblygiad yr ysgol a dymunaf bob dymuniad da iddynt ar gyfer y dyfodol. Hywel Price (Prifathro) 09/07/2015. |
Cartref > Colofn y Pennaeth >