Annwyl rieni, gwarcheidwaid a disgyblion, Ysgrifennaf atoch i’ch hysbysu fy mod wedi derbyn swydd fel Pennaeth Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ac y byddaf yn dechrau’r swydd newydd yn Ionawr 2016. Bydd Cyngor Sir Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf a Chorff Llywodraethol Ysgol Gyfun Rhydywaun yn dechrau proses o benodi Pennaeth yn fy lle. Mae’r ysgol mewn sefyllfa cryf iawn gyda staff ymroddgar, canlyniadau arholiadau sydd wedi gwella am dair blynedd yn olynol gan ein gosod ymhlith goreuon y sir, ac eleni wedi ei chydnabod gan y Cyfarwyddwr Addysg fel "yr ysgol sy’n cyflawni orau yng Nghwm Cynon a Merthyr.” Mae disgyblion arbennig yma o ran ymddygiad a chyfeillgarwch ac adlewyrchir hyn gan lefel presenoldeb ail uchaf yn y sir a chyfradd diarddeliadau isaf y sir. Er bod fy nheimladau yn rhai cymysg rwy’n hyderus bod seiliau cryf wedi ei sefydlu eisoes i wthio’r ysgol ymlaen I’r cyfnod nesaf yn ei hanes. Dymunaf bob dymuniad da i fy olynydd ac i bawb yn gysylltiedig â’r ysgol unigryw hon. Hywel Price Hydref 2015 |
Cartref > Colofn y Pennaeth >