Newyddion
22.11.21 NOSON AGORED RHITHIOL BLWYDDYN 6
![]() ![]() ![]() ![]() Ymunwch â ni yn ein Noson Agored Rithiol ar 25.11.21 am 6pm. http://rhydywaun.org Dewch yn llu! |
Her yr Hafan (Plant mewn Angen 2021)
Pob hwyl i Dîm yr Hafan bydd yn mentro i gwblhau her sgwats i godi arian i Blant mewn Angen ar ddydd Gwener. Y targed yw 5000 sgwat mewn diwrnod! Fe fydd cyfle gyda unrhywun ddod i'r Hafan i gefnogi a chymryd rhan amseroedd egwyl a chinio. Dyma'r linc os hoffech gefnogi...... Pob lwc!! |
15.11.21 Noson Rhieni Rhithiol Bl11 18.11.21
Prynhawn da, Cafodd manylion trefnu apwyntiadau ar gyfer y noson rhieni rhithiol Blwyddyn 11 sydd rhwng 15:15 a 18:15 nos Iau yma (18.11.21) eu dosbarthu i ddisgyblion wythnos ddiwethaf. Os nad ydych wedi derbyn manylion y noson rhieni, yna plîs cysylltwch gyda Mrs Alison Roberts yn swyddfa'r ysgol ar 01685 813500 yfory os gwelwch yn dda. Mae’r system bwcio apwyntiadau yn cau am 15:15 ar Ddydd Mercher 17.11.21 Diolch
|
07.11.21 RAFFL NADOLIG 2021 FFRINDIAU RHYDYWAUN
Cyfle i ennill iPad Air!
Mae Ffrindiau Rhydywaun yn cynnal raffl Nadolig ar-lein gyda gwobrau anhygoel ar gael yn cynnwys iPad Air! Diolch yn fawr i'r holl fusnesau lleol am eu gwobrau hael. Pris y tocynnau yw £1 yr un ac mae'n bosib eu prynu drwy glicio ar y linc PayPal hon: PayPal.Me/ffrindiaurhydywaun (cofiwch gynnwys eich rhif cyswllt yn yr adran nodiadau). Bydd unrhyw elw o’r raffl yn mynd tuag at gefnogi gweithgareddau disgyblion ac er lles ein cymuned ysgol. Tynnir y raffl ar ddydd Gwener, 10 Rhagfyr 2021, a hysbysir yr enillwyr yr wythnos sy'n dechrau 13 Rhagfyr 2021. Am fanylion pellach, cysylltwch â betsan.jones@rhydywaun.org POB LWC! |
19.10.21 NOSON RHIENI RHITHIOL BL7
Bore da, Cafodd manylion trefnu apwyntiadau ar gyfer y noson rhieni rhithiol Blwyddyn 7 sydd rhwng 15:15 a 18:00 nos Iau yma 21.10.21 eu dosbarthu i ddisgyblion wythnos ddiwethaf. Os nad ydych wedi derbyn manylion y noson rhieni, yna plîs cysylltwch gyda Mrs Alison Roberts yn swyddfa'r ysgol ar 01685 813500 mor gynted ag sy’n bosib os gwelwch yn dda. Mae’r system bwcio apwyntiadau yn cau am 15:15 ar Ddydd Mercher 20.10.21. Diolch yn fawr |
04.10.21 Llythyr Pwysig - gorchuddion wyneb
Prynhawn da, Edrychwn ymlaen at groesawu ein holl ddisgyblion nôl i’r ysgol yfory (Dydd Mawrth 05.10.21) ar ôl y penwythnos hir. Mae llythyr pwysig gan y Brifathrawes wedi danfon drwy ClassCharts at rieni a gwarcheidwaid prynhawn yma yn dilyn cyhoeddiad Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ar gorchuddion wyneb. Mae pob neges a llythyr yn cael eu danfon at rieni/gwarcheidwaid drwy’r system ClassCharts. Os oes angen côd ClassCharts newydd, yna plîs cysylltwch â Mrs Alison Roberts yn swyddfa’r ysgol (alisonroberts@rhydywaun.org) gydag enw, dosbarth cofrestru a dyddiad geni eich plentyn. Diolch yn fawr |