Diolch i bawb a gymerodd ran yn ein holiadur diweddar. Rydym yn gwerthfawrogi'ch sylwadau a'ch adborth yn fawr iawn. Mae neges wedi cael ei danfon at holl ddisgyblion yr ysgol drwy e-bost ac i holl rieni a gwarcheidwaid drwy ClassCharts prynhawn yma gyda chrynodeb o’r sylwadau a gawsom o’r holiadur. Mae’r neges hefyd yn cynnwys y newidiadau yr ydym yn bwriadu eu gwneud i'n darpariaeth Dysgu o Adref. Os nad ydych wedi derbyn y llythyr yma, yna e-bostiwch covid@rhydywaun.org os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr |
Newyddion >