Yn Rhydywaun rydym yn ymrwymo i sicrhau lles, uchelgais a’r cyfleoedd gorau i bawb. Gwir. Gweithgar. Gwych
Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i chi i gyd am eich cymorth, cefnogaeth a’ch amynedd drwy’r cyfnod heriol hwn.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld ein disgybion i gyd dros y dyddiau nesaf. Fel y Brifathrawes ac fel staff yr ysgol, mae'r syniad o groesawu'n holl blant nôl i amserlen lawn a bywyd ysgol arferol yn un hyfryd, rydym wir yn obeithiol y bydd hyn yn realiti dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. O ran y cyfnod anwytho i’r ysgol ar ddechrau Medi, rydym yn glynu wrth y cynllun â rhannwyd ym mis Gorffennaf. Bydd y trefniadau newydd yn golygu rhywfaint o addasu: mae'r ysgol yn debygol o deimlo’n lle eithaf gwahanol i'r un a adawsom ym mis Mawrth a dros yr haf. Byddwn yn cymryd ein hamser, a byddwn yn canolbwyntio ar addysgu, normau ac arferion ac ar sicrhau bod ein disgyblion yn hapus ac yn astudio’n galed cyn gynted â phosibl. Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf i chi fel rhieni a disgyblion.Mae’n hanfodol eich bod yn darllen ac yn deall ein systemau a sut byddwn yn ymateb i sefyllfaoedd, dan yr amgylchiadau presennol: Hoffem eich sicrhau ein bod wedi gwneud llawer iawn o waith i sicrhau bod yr ysgol mor ddiogel â phosibl. Rwyf yn hynod ddiolchgar i holl staff yr ysgol am eu gwaith caled a dyfalbarhad. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at gael ein hysgol yn gweithredu'n llawn eto a gweld ein pobl ifanc, er hyn mae’n holl bwysig eich bod yn deall y cynlluniau a sut byddwn yn ymateb yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a’r Awdurdod Lleol, wrth ymdopi â’r sefyllfa bresennol. Miss Lisa Williams Prifathrawes |
Newyddion >