Oes gennych chi unrhyw siwmperi coch Rhydywaun, tei a blazers Rhydywaun diangen yn gorwedd o gwmpas y tŷ? Ydych chi'n barod i roi'r eitemau hyn (y mae angen iddynt fod mewn cyflwr da) i siop Gwisg Ysgol Ffrindiau Rhydywaun? Os taw ie yw'r ateb, gall disgyblion ddod â'u heitemau i'r ysgol yr wythnos nesaf. Mae croeso i Flwyddyn 11 a 13 ddod â'u heitemau ar ddiwrnod eu canlyniadau (10.08.21 a 12.08.21). Byddwn yn sefydlu siop dros dro gwisg ysgol yn yr ysgol yn ystod mis Awst. Bydd manylion pellach am ddyddiadau, amseroedd a stoc sydd gennym ar werth yn cael eu hanfon atoch trwy ClassCharts a bydd y wybodaeth hefyd ar wefan yr ysgol, Facebook a Twitter. Diolch yn fawr iawn |
Newyddion >