NODYN i ATGOFFA: Fel ysgol rydym wedi derbyn nifer o gwynion ynglŷn â disgyblion sydd ddim yn gwisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth ysgol. Nodyn i atgoffa bod gorchuddion yn orfodol ar fysiau Rhondda Cynon Taf, mae’r disgyblion yn cael eu hatgoffa yn ddyddiol yn yr ysgol.
Cais am gymorth gan rieni i atgoffa eich plant i wisgo gorchudd ar bob taith ar y bws os gwelwch yn dda, oni bai bod rheswm teilwng meddygol i beidio. Gwerthfawrogir eich cymorth i atgyfnerthu’r neges hon yn fawr iawn.
Mae Cyngor Merthyr hefyd yn awgrymu’n gryf bod angen gwisgo gorchuddion wyneb ar y bws.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch gyda’ch adran drafnidiaeth yn eich sir. Diolch yn fawr
|
Newyddion >