Llongyfarchiadau anferth i'n myfyrwyr 6ed Dosbarth sy'n derbyn canlyniadau heddiw. Rydym yn falch iawn ohonoch ac yn dymuno'n dda i chi ar gyfer y dyfodol. Diolch o galon i chi am eich holl ymdrechion, gwaith caled a dyfalbarhad. Rydych wedi bod yn flwyddyn anhygoel. Diolch anferth i holl staff yr ysgol hefyd am eich gwaith caled a hefyd i'ch rhieni a'ch gwarcheidwaid am eu holl gefnogaeth. Dymuniadau gorau i chi ar gyfer dyfodol hapus a llwyddiannus. Yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru neithiwr na ddylai dysgwyr Safon Uwch dderbyn canlyniad gradd mewn pwnc yn Haf 2020 sy'n is na'u gradd lefel UG gyfatebol o lynedd, bydd ambell i radd yn newid. Rydym yn aros i dderbyn y canlyniadau newydd a byddwn yn cysylltu yn uniongyrchol gyda’r myfyrwyr hwnnw. Cofiwch, os ydych yn Bl13 ac am wirio unrhyw ganlyniad neu herio gradd, gofynnir i chi e-bostio Miss Sweet laurasweet@rhydywaun.org Os ydych yn Bl12 ac am wirio unrhyw ganlyniad gofynnir i chi e-bostio arholiadau@rhydywaun.org gyda manylion eich cais i wirio’r canlyniad. Byddwn yn ymateb i bob e-bost o Fedi 1af, 2020. |
Newyddion >