Annwyl Rieni/Gwarcheidwaid
Fel Cyngor, rydyn ni'n cydnabod ei bod hi'n gyfnod pryderus i'n cymunedau wrth i'r cyfyngiadau ar fywyd bob dydd barhau a nifer yr achosion o Covid-19 godi eto ledled RhCT. Rydyn ni'n gofyn yn gwrtais i rieni/gwarcheidwaid a'u hatgoffa i gyfrannu at leihau trosglwyddo'r Coronafeirws ar bob cyfle, gan gynnwys parhau i gynnal pellter cymdeithasol tu allan i dir yr ysgol a thrwy wisgo gorchudd wyneb os yw'n bosibl, yn unol â chyngor y Cyngor i drigolion, a rannwyd ddydd Iau 10 Medi.
Er ein bod ni'n cydnabod ei bod hi'n bwysig bod modd i blant gymdeithasu'n gyfrifol a bod gweithgareddau yn yr awyr agored yn hanfodol i'w llesiant, rydyn ni'n annog pob rhiant a gwarcheidwad i fod yn effro i le mae eu plant, cwmni eu plant, a'r hyn mae'u plant yn ei wneud tu allan i'r ysgol, yn enwedig yn ystod y nosweithiau a'r penwythnosau. Mae lleihau eich cysylltiadau cymdeithasol, cynnal pellter cymdeithasol a hyrwyddo hylendid effeithiol yn hanfodol ar gyfer lleihau'r risg o drosglwyddo'r feirws.
Byddwch chi'n effro i'r ffaith bod cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion positif ledled Cymru a Rhondda Cynon Taf yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac mae angen i bob un ohonom ni chwarae ei ran wrth leihau lledaenu'r Coronafeirws yn ein cymunedau. Cymerwch ofal, a chadwch yn ddiogel.
Y Cynghorydd Andrew Morgan Arweinydd Cyngor RhCT |
Newyddion >