Mae wedi bod yn ddiwrnod hyfryd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun wrth i'n disgyblion Blwyddyn 11 gasglu eu canlyniadau TGAU. Llongyfarchiadau enfawr i chi i gyd ar eich llwyddiant haeddiannol. Diolch o galon i'r holl athrawon a staff am eu cefnogaeth ragorol a hefyd i'ch holl rieni. Pob dymuniad da am ddyfodol llwyddiannus ac edrychwn ymlaen at weld y mwyafrif ohonoch pan fyddwch yn dychwelyd i Rhydywaun i ddechrau eich astudiaethau Chweched Dosbarth gyda ni. |
Newyddion >