Mae wedi bod yn hyfryd iawn gweld ein disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol dros y pythefnos diwethaf, rydym wedi bod wrth ein bodd yn eu croesawu yn ôl i’r ysgol. Mae llythyr gan Miss Williams, y Brifathrawes, wedi ei danfon at rieni/gwarcheidwaid y prynhawn yma drwy ClassCharts yn rhoi manylion am y trefniadau ar gyfer y tymor nesaf. AT SYLW RHIENI/GWARCHEIDWAID BLWYDDYN 11,12 a 13 Mae gwybodaeth yn amlinellu'r prosesau a threfniadau byddwn yn dilyn er mwyn gwobrwyo graddau i ddisgyblion Bl11, 12 a 13 haf yma wedi’i danfon at rieni a gwarcheidwaid drwy ClassCharts bore yma. PASG HAPUS! |
Newyddion >