Cynhaliwyd arddangosfa o waith arholiad Celf a Dylunio a Thechnoleg disgyblion TGAU, Uwch Gyfrannol ac Uwch yn neuadd yr ysgol yn ddiweddar. Paratowyd lluniaeth gan y dosbarth arlwyo, ac fe gafwyd noson ardderchog, a phawb oedd yn bresennol yn cytuno bod y gwaith cwrs o safon uchel unwaith eto! Llongyfarchiadau i'r disgyblion a'r athrawon am eu gwaith!
|