Rydym yn edrych am bobl sydd yn fodlon fod yn rhan o dîm arolygwyr Arholiadau Lefel A a TGAU Ysgol Gyfun Rhydywaun i ddechrau yn fis Mai 2020. Bydd yr oriau yn wahanol pob wythnos yn ystod y cyfnod arholiadau. Rydym yn edrych am bobl sydd yn gallu siarad a darllen Cymraeg yn dda ond does dim angen cymwysterau penodol gan fod hyfforddiant llawn ar gael. Taliad yw tua £9.00 yr awr. Croeso cynnes i gyn-ddisgyblion ymgeisio ond rhaid bod wedi gadael y chweched ers 2017. Os ydych yn nabod unrhyw un fydd â diddordeb gofynnwch iddynt gysylltu â Mrs Alison Lloyd (Swyddog Arholiadau) ar 01685 810552 am fwy o fanylion. |
Newyddion >