Blwyddyn 10 … Pam fod bywyd mor annheg? Dechrau TGAU, Rwy’n ei gasáu (Heblaw chwaraeon, Rygbi, pêl-rwyd, badminton), Anifeiliaid gwyllt a ffyrnig, Tawel iawn fel llygod Ffrengig, Neb am ateb, pawb yn swil, Edrych mlaen am benwythnos bril Pan fo’r anifeiliaid gwylltion Yn ailymddangos o’r cysgodion, Rasio geifr, partïa, cysgu, Heb anghofio adolygu, Cyn cropian nôl i’r hen gysgodion A llusgo’n traed fel hen, hen ddynion, Eistedd arholiad anodd iawn I baratoi am fywyd llawn, Ond nawr mae’n ddigon i Flwyddyn 10 Frwydro ‘mlaen at un ar ddeg. |
Newyddion >