![]() Mae Ysgol Gyfun Rhydywaun yn dathlu cyfres da o ganlyniadau safon uwch eto eleni. Cafodd pob myfyriwr oedd wedi eu cofrestru ar gyfer dau neu fwy o gwmwysterau safon uwch gymwysterau pasio neu’n well. Cododd y gyfradd basio o tua 1% o llynedd. Eleni, gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y graddau A* a chlod uchel. Meddai’r Pennaeth, Mark Jones, “Mae’n bleser cyhoeddi bod yr ysgol yn parhau i berfformio’n dda mewn cymwysterau safon uwch a bod gwelliant ar ganlyniadau y llynedd. Hoffwn ddiolch i‘r staff a’r myfyrwyr am eu gwaith called a’u hymroddiad. Dymunaf y gorau i’r holl fyfyrwyr yng ngham nesaf eu gyrfâu.” Estynnir llongyfarchiadau ychwanegol i Megan Price a gafodd 2A* a 2A, â Katie Rivers a gafodd 1A* and 3A ac Honor Broadstock a gafodd 3 clod uchel ac 1 B. Bydd Katie yn astudio’r gyfraith yn Rhydychen a bydd Megan yn astudio Gwyddorau Meddygol yng Nghaerdydd. Bydd Honor yn astudio Iechyd a Gofal ym Mhrifysgol Abertawe. Bu cyflawniadau nodweddiadol eraill hefyd, megis: Sophie Davies a Gwen Morgan 1A* 3B Meg Edwards, Jessica Jones a Megan Williams 1A*, 2B, 1C Emilia Stevenson 1A, 2B, 1C Amie Jones 1A*, 1 clod uchel, 2C Llongyfarchiadau hefyd i Dafydd Thomas a gafodd ysgoloriaeth i goleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd ac i Farah Jenkins a gafodd ysgoloriaeth i astudio’r Gymraeg a’r gyfraith yn Abertawe. Gwelodd yr ysgol gynnydd sylweddol hefyd yn ein graddau A* yng nghymhwyster Bagloriaeth Cymru, gyda naw gradd A* o gymharu â dwy radd A* yn unig llynedd. |
Newyddion >