Mae Ysgol Gyfun Rhydywaun eto’n dathlu cyfres dda o ganlyniadau safon Uwch ac Uwch Atodol. Llongyfarchiadau i’r myfyrwyr heddiw sy’n derbyn ffrwyth eu gwaith caled dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd y cyfradd pasio’n 96% gyda bron 70% o’r holl raddau’n A* i C. Gwelwyd cynnydd mewn nifer y graddau uwch hefyd a chafodd naw myfyriwr allan o’r 64 yn y flwyddyn ddwy radd A/A* neu’n well. Dywedodd y Pennaeth, Mark Jones, “Rydym yn bles iawn gyda’r canlyniadau eleni. Mae hyn yn gredyd i’n myfyrwyr sydd wedi gweithio’n galed yn yr ysgol ac wrth hunanastudio dros y dwy flynedd diwethaf. Dymunwn pob lwc iddynt ar gam nesaf eu gyrfau.” Dyma rai cyraeddiadau nodweddiadol: Eve Price - 3A*, 1A + gradd A AS. Mae Eve yn mynd i astudio Meddygaeth yng Nghaergrawnt. Owain Birrell - 3A*, 1B + gradd A AS. Mae Owain yn mynd i astudio Mathemateg yn Rhydychen. Morgan Lewis - 3A, 1C Edward Crowson - 1A*, 2A, 1B Abbie James - 1A*, 2A, 1B Darya Williams - A*, A, 2B Mali Davies - Anrhydedd*, A, C, D Kian Monaghan - 2Anrhydedd*, D Bethany Shopland - Anrhydedd*, A, 2D
Cafwyd gwelliant eto eleni yn ein canlyniadau Uwch Gyfrannol, gyda chynnydd yn y gyfradd pasio a nifer y graddau A a B. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar y llwyddiannau hyn dros y flwyddyn nesaf. |
Newyddion >