Llongyfarchiadau i Elian a Syfi Owen o Gaerdydd. Maent wedi ennill taleb i-tunes £20 am dyfu blodyn haul uchaf Cymru! Roedden nhw wedi cymryd rhan yn ein cystadleuaeth ni nôl ym mis Mai yn stondin yr ysgol ar faes Eisteddfod yr Urdd, Caerffili. Garddwyr y dyfodol mae'n sicr! |