Roedd cyffro mawr yn yr ysgol ddydd Gwener pan ddaeth Dan Lydiate, blaenasgellwr tîm rygbi Cymru a chwaraewr gorau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2012 yma i gwrdd â'r disgyblion. Fe dreuliodd e drwy'r bore yn ateb cwestiynau ac yn llofnodi eitemau i'r disgyblion. Daeth e â'r tlws enillodd am fod yn Bencampwr y Chwe Gwlad gydag ef hefyd i ddangos i'r disgyblion. Roedd ciw hir eisiau cael eu lluniau wedi'u tynnu gyda'r arwr rygbi, gan gynnwys nifer o athrawon! Diolch yn fawr iddo am roi o'i amser i ymweld â'r ysgol! |