DATHLU 25 RHYDYWAUN Yn galw cyn-ddisgyblion a chyn aelodau staff Rhydywaun!
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun yn dathlu pen-blwydd yn 25 mlwydd oed eleni. Roeddwn yn gobeithio cynnal nifer o ddathliadau dros y flwyddyn i ddathlu, ond yn amlwg gyda'r sefyllfa Covid-19 bydd unrhyw weithgaredd wyneb i wyneb yn edrych yn annhebygol iawn o ddigwydd. Mae criw o flwyddyn 12 wrthi yn paratoi dathliad rhithiol ac mae angen eich cymorth!!
A fyddech gystal â · gorffen y frawddeg “fy hoff atgof ysgol yw....” gan nodi enw a dyddiad ysgol a danfon ar e-bost i dathlu25@rhydywaun.or · dweud ‘Pen-blwydd hapus Rhydywaun” i gamera (mae angen i’r camera fod yn ‘landscape’ nid ‘portrait’ os ydych chi'n defnyddio camera ar ffôn neu ipad) Gallwch hefyd ychwanegu neges fer os ydych yn dymuno ond i adael saib ar ôl y cyfarch cyntaf neu recordio fel ail fideo os dymunwch. E-bostiwch eich cyfarchion i dathlu25@rhydywaun.org
Lledaenwch y neges! Diolch yn fawr
#dathlu 25 #gwir #gweithgar #gwych |
Newyddion >