Newyddion‎ > ‎

Gareth a James ar eu ffordd i'r 'West End'

posted 16 Aug 2012, 14:06 by Elen George

Mae Gareth Evans a James Morgan wedi ennill ysgoloriaeth yr un i astudio yn un o golegau perfformio gorau Prydain! Mae'r Guildford School of Arts yn enwog dros y byd i gyd am fod yn sefydliad i hyfforddi actorion a thechnegwyr ym mhob agwedd o waith theatr a'r cyfryngau. Ymhlith y graddedigion enwocaf y mae Tom Chambers, Brenda Blethyn OBE, Bill Nighy, Michael Ball, Celia Imrie, Chris Geere, Ellie Paskell, Claire Cooper, Rob Kazinsky, Ian Kelsey, Justin Fletcher, MBE, Isy Suttie, Daniel Boys, Helena Blackman. Gwelir perfformwyr sydd wedi hyfforddi yn GSA ym mhob sioe yn y West End. Bydd Gareth yn astudio Theatr Cerdd a James yn astudio Actio. Rydym yn gwybod eisoes am dalent perfformio'r ddau ac yn edrych ymlaen at ddilyn eu hanes! 
Comments