Rydym yn gweithredu er mwyn sicrhau lles ac addysg ein disgyblion dan amgylchiadau heriol ac unigryw iawn ar hyn o bryd. Rydym wedi gwneud rhai addasiadau o fewn yr ysgol i hwyluso hyn dros y dyddiau ac wythnosau nesaf. Mae nifer o weithgareddau allgyrsiol wedi eu canslo. Rydym yn rhyddhau rhai disgyblion yn gynharach i ginio er mwyn lleihau ar faint o blant sy'n ciwio'r un pryd. Rydym wedi canslo cyfarfodydd a gwasanaethau torfol yn yr ysgol. Rydym wedi gohirio cyrsiau a chyfarfodydd fel bod staff yn yr ysgol. Ni fyddwn yn parhau i gymryd taliadau am deithiau, ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio ar gynllun wrth gefn ar gyfer amgylchiadau y dyfodol.
Cofiwch - nid oes unrhywun o'r ysgol wedi derbyn diagnosis Covid-19. Rydym AR AGOR fel arfer. Diolch am eich cefnogaeth a chymorth. Dyma linc i'r wybodaeth gyfredol, cywir - https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/ |
Newyddion >