Yn ddiweddar fe wnaeth Megan Rolls, Blwyddyn 9, gymryd rhan mewn gŵyl telynau ryngwladol yn Ancenis, Ffrainc. Cafodd nifer o delynorion o bedwar ban byd eu gwahodd gyda rhai yn teithio o Kuala Lumpur, Malaysia, Tasmania, Ffrainc, America, Iwerddon a Chymru. Yn y lluniau iosd gwelir Megan gyda Deborah Henson-Conant (telynores enwog o Amercia), Megan yn perfformio gyda Dynamic Harps o Gaerdydd a Megan yn ymarfer ar gyfer y gyngerdd yn Quatre Libre Theatré. Am brofiad! |
Newyddion >