Llongyfarchiadau i Catrin Meek ar ddod yn ail yn y gystadleuaeth Unawd Telyn 16-19 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg. Mae hi wedi bod yn haf prysur i Catrin sydd wedi bod ar daith gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, ac yn cymryd rhan mewn dosbarth meistr gyda'r delynores Catrin Finch! Bydd Catrin yn mynd i Lundain i astudio'r delyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol ym mis Medi. Pob lwc! |