Roedd grŵp o ddisgyblion Medrus a Thalentog o Flwyddyn 9 wedi cymryd rhan mewn sialens beirianegol yn Stadiwm y Liberty yn Abertawe fis diwethaf. Enw'r gystadleuaeth oedd 'Y Glec Fawr' ac roedd yn rhaid iddyn nhw greu model a chyflwyno'u gwaith i'r beirniaid, sef y Dirprwy Weinidog Sgiliau Jeff Cuthbert a'r cyflwynydd teledu Gazz Top. Yn ôl Mr Cenwyn Brain roedd eu sgiliau cyfathrebu yn arbennig, a braf iawn oedd cael y cyfle i'w gweld yn trafod a dadlau gydag oedolion mewn ffordd aeddfed tu hwnt. Yn anffodus ni chafodd y disgyblion eu dewis i fynd ymlaen i'r gystadleuaeth Brydeinig, ond mae'n rhaid eu bod wedi colli allan trwy drwch blewyn yn unig. Bydd y £180 a enillwyd yn cael ei ddefnyddio i gystadlu eto'r flwyddyn nesaf! Diolch i Mr Brain, Mr Kevin Davies, Mr Meaker a Mr Maliphant am eu gwaith, a llongyfarchiadau mawr i'r disgyblion! |
Newyddion >