Newyddion‎ > ‎

Noson Opsiynau Bl.11 - 01/02/18

posted 30 Jan 2018, 03:41 by Cenwyn Brain   [ updated 30 Jan 2018, 03:49 ]

Gwahoddir chi yn gynnes i fynychu’r noson bwysig hon fydd yn esbonio’r holl opsiynau fydd ar gael i’r disgyblion Blwyddyn 11 presennol ym mis Medi 2018. 

Byddwn yn lansio ‘Cwricwlwm Rhydywaun 2018’ ar ddechrau’r noson a bydd ein Llawlyfr Opsiynau newydd ar gael i bawb fydd yn rhoi gwybodaeth am bob pwnc gan gynnwys y rhai newydd. 

Byddwch yn rhydd am weddill y noson i ymweld â’r Arweinwyr Pwnc gan y byddant yn rhoi cyflwyniadau pynciol yn eu hystafelloedd dysgu. 

Bydd swyddog ‘Gyrfa Cymru’ hefyd yn bresennol i’ch cynghori’n bellach.

Mae hon yn noson bwysig iawn i ddyfodol eich plentyn felly mawr obeithiaf y gallwch fod yn bresennol.    
Ċ
Cenwyn Brain,
30 Jan 2018, 03:41
Comments