Noson Opsiynau Bl.11 30ain Ionawr 2020, 4:30pm – 6:30pm.
Gwahoddir chi yn gynnes i fynychu’r noson bwysig hon fydd yn esbonio’r holl opsiynau fydd ar gael i’r disgyblion Blwyddyn 11 presennol ym mis Medi 2020. Byddwn yn lansio ‘Cwricwlwm Rhydywaun 2020’ar ddechrau’r noson a bydd ein Llawlyfr Opsiynau newydd ar gael i bawb fydd yn rhoi gwybodaeth am bob pwnc gan gynnwys y rhai newydd. Byddwch yn rhydd am weddill y noson i ymweld â’r Arweinwyr Pwnc gan y byddant yn rhoi cyflwyniadau pynciol yn eu hystafelloedd dysgu. Bydd cynrychiolyddion o Garfan Cyflogaeth Addysg a Hyfforddiant RCT, Gyrfa Cymru, a Phrifysgol De Cymru hefyd yn bresennol i’ch cynghori’n bellach. Mae hon yn noson bwysig iawn i ddyfodol eich plentyn felly mawr obeithiaf y gallwch fod yn bresennol. |
Newyddion >