Gwahoddir chi yn gynnes i fynychu’r noson bwysig hon fydd yn esbonio’r holl opsiynau fydd ar gael i’r disgyblion Blwyddyn 9 presennol ym mis Medi 2018. Byddwn yn lansio ‘Cwricwlwm Rhydywaun 2018’ ar ddechrau’r noson a bydd ein Llawlyfr Opsiynau newydd ar gael i bawb fydd yn rhoi gwybodaeth am bob pwnc gan gynnwys y rhai newydd. Byddwch yn rhydd am weddill y noson i ymweld â’r Arweinwyr Pwnc gan y byddant yn rhoi cyflwyniadau pynciol yn eu hystafelloedd dysgu. Bydd swyddog ‘Gyrfa Cymru’ hefyd yn bresennol i’ch cynghori’n bellach. Mae hon yn noson bwysig iawn i ddyfodol eich plentyn felly mawr obeithiaf y gallwch fod yn bresennol. |
Newyddion >