Mae nifer o ddisgyblion wedi profi llwyddiant mewn sawl maes chwaraeon dros yr wythnosau diwethaf. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw i gyd! Rydym yn falch iawn o'ch llwyddiant. Joshua Withers - wedi ei ddewis i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Cic-Baffio'r Byd yn Florida ym mis Medi. Ethan King - paffio - wedi ennill gornest Pencampwriaeth Cymru. Ioan Davies - rygbi - wedi ei ddewis i fod yn rhan o garfan Cymru dan 16. Ieuan Morris - rygbi - wedi ei ddewis i chwarae dros y Gleision. Ben Breakspear - wedi dyfarnu ei gêm ryngwladol gyntaf yn ddiweddar. Joseph Reardon - disgybl cyntaf yr ysgol i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth Traws Gwlad. Enillodd y tîm fedal arian ym Mhencampwriaethau Prydain yn Falkirk yn ddiweddar. Luke Jones - gymnasteg - wedi ennill medal efydd yng nghystadleuaeth gymnasteg dan 19 Cymru. |
Newyddion >